Oes angen cymorth  arnoch gyda’ch sgiliau astudio a rheoli amser? Mae yna ap ar gael am hynny!

Mae’n debygol eich bod yn defnyddio apiau bob dydd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau, i ddal i fyny gyda rhaglenni teledu ac i wrando ar gerddoriaeth, ond ydych chi erioed wedi ystyried sut gall apiau gwahanol eich helpu i astudio? Mae DnA wedi llunio rhestr o adnoddau am ddim a allai fod yn ddefnyddiol i fyfyrwyr. Gallwch bori’r rhestr gyfan neu glicio ar dag i gael cymorth mewn maes penodol. Er enghraifft, gallwch ddysgu sut gall apiau fel Evernote a Google Keep eich helpu gyda’ch ymchwil neu ddod o hyd i offer i’ch helpu gyda’ch cyfeirnodi (COFIWCH: mae’n rhaid i chi wirio pa arddull gyfeirnodi dylech ei defnyddio yn eich aseiniad a defnyddiwch ganllawiau’r llyfrgell i sicrhau eich bod yn defnyddio’r fformat cywir gyda’ch cyfeiriadau!).

Rhowch gipolwg ar y dewis i weld a oes modd gwneud eich bywyd yn haws. Os yw’n well gennych, gallwch lawrlwytho Arweiniad i Apiau DnA ar ffurf PDF.

Picture of smartphone with app icons flying from screen

Image courtesy of Stuart Miles at FreeDigitalPhotos.net

February 8th, 2017

Posted In: Uncategorized

Tags: , ,


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University