Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn annog pob un ohonoch i ymlacio eich meddwl gyda llyfr am ddim. Mae “Dêt Darllen” yn defnyddio cyfraniadau gan staff, myfyrwyr a chyhoeddwyr er mwyn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth newydd y Dydd Sant Ffolant hwn – swatio’n glyd gyda llyfr ar 14 Chwefror 2018.

Mae ymchwil gan Brifysgol Sussex wedi dangos bod darllen yn gallu lleihau lefelau straen 68 y cant. Mae darllen er mwynhad yn gallu arwain at ystod eang o fuddion.

Roedd haelioni’r cyhoeddwyr a ofynnwyd iddynt gymryd rhan eleni yn aruthrol. Diolch yn fawr i Honno, Parthian, a Seren am gasgliad o lyfrau cyfoes a chlasuron gan awduron o Gymru.

Bydd gan bob un o’n llyfrgelloedd campws – Parc Singleton, y Bae a Pharc Dewi Sant – “Ddêts Darllen” am ddim i gadw cwmni i chi. Bydd Llyfrgell y Glowyr yn defnyddio llyfrau a gyfrannwyd gan eu hymwelwyr i godi arian at elusen Book Aid. Pan fyddwch wedi gorffen darllen y llyfr o’ch dewis cofiwch rannu’r profiad gyda’ch ffrindiau, teulu, neu gyfrannu at un o’r blychau cyfnewid llyfrau yn y llyfrgell neu’r caffi ar eich campws.

Lledaenwch gariad at ddarllen ar gyfer Dydd Sant Ffolant a thu hwnt.

February 13th, 2018

Posted In: Library Event, Uncategorized, Wellbeing

Tags: , , ,


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University