Wedi mynd adre dros yr haf?

Mae benthyciadau dros y gwyliau wedi dechrau ar Ddydd Gwener, 8fed o Fehefin 2018 a bydd angen eu dychwelyd erbyn Dydd Mercher, 3ydd o Hydref 2018.

Os ydych yn mynd adref am yr haf, a hoffech ddefnyddio llyfrgell eich prifysgol leol, gallwch ddefyddio cynllun Mynediad SCONUL neu unrhyw un o’r cynlluniau benthyca eraill sydd ar gael. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen Gwybodaeth i Ymwelwyr.

Gallwch hefyd gael mynediad at ystod eang o wybodaeth dros y we – i wneud hyn bydd angen i chi defnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe llawn a’ch cyfrinair.

E-lyfrau
Mae gennym gasgliad o e-lyfrau sy’n cynyddu drwy’r amser y gellir dod o hyd iddynt drwy iFind, catalog y llyfrgell. Chwiliwch am derm cyffredinol (e.e. marchnata, nyrsio ayyb) ac yna gosodwch y dewisiadau Fformat ar gyfer “Testyn Llawn Arlein” a “Llyfrau” sydd wedi’u rhestru ar ochr chwith y sgrin.

Mae ein e-lyfrau ar gael drwy dair prif wefan: dawsonera, EBSCO ac Proquest Ebook Central.  Gellir cyrchu llyfrau ar-lein unrhyw bryd neu mae dewisiadau cyfyngedig ar gael ble gellir llwytho i lawr: mae dawsonera yn caniatáu llwytho i lawr am 1-2 ddiwrnod ac mae Proquest Ebook Central yn rhoi cyfnod o 14 diwrnod o lwytho i lawr (angen Argraffiad Digidol Adobe).  Mae gennym dros 106,000 o deitlau ar Proquest Ebook Central – gallwch gyrchu’r safle’n uniongyrchol i chwilio ar draws testun llawn y casgliad ac adeiladu eich silff lyfrau ar-lein eich hun er mwyn gallu cyrchu eich hoff deitlau’n rhwydd.

Erthyglau mewn cylchgronau
I chwilio am erthygl benodol neu ar destyn penodol mewn cylchgrawn, defnyddiwch iFind, catalog y llyfrgell (articles & more) a rhowch gyfenw’r awdur ac ychydig o eiriau o deitl yr erthygl (nid teitl y cylchgrawn) yn y blwch.  Bydd botwm “Full Text” yn ymddangos wrth ochr y canlyniadau hynny lle y gallwch gyrchu’r erthygl destun lawn.

E-adnoddau Eraill

Mae gan ein tudalennau Library Guides wybodaeth ar e-adnoddau eraill sydd ar gael i chi, megis basau data papurau newydd.  Cewch ddod o hyd i wybodaeth am thesisau ar wefan y llyfrgell.

Angen help wrth gael mynediad at adnoddau llyfrgell?
Cysylltwch â’r ddesg wybodaeth yn ystod oriau agor ar: customerservice@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 295500. Gallwch gysylltu â ni trwy ein tudalennu facebook neu ar twitter hefyd.

June 8th, 2018

Posted In: Uncategorized


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University