A wnaethoch chi fethu cwrs sefydlu’r llyfrgell? Neu a wnaethoch chi fynychu ond eich bod yn cael trafferth cofio’r manylion? Mae 5 Diwrnod Llyfrgell yma i’ch cynorthwyo! Dyma raglen fer ar-lein i’ch cynorthwyo i wneud y mwyaf o’r llyfrgell. Rhwng dydd Llun 12 Tachwedd a dydd Gwener 16 Tachwedd, byddwn yn trafod

  • Triciau’r llyfrgell
  • Darganfod a benthyca llyfr
  • Darganfod elyfrau
  • Darganfod erthyglau o gyfnodolion
  • Darganfod gwybodaeth arbenigol mewn cronfa ddata

Cofrestrwch ar gyfer ein blog issnews.swan.ac.uk er mwyn derbyn neges newydd bob dydd o’r wythnos. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter ac Instagram gyda’r hashnod #su5dol.

Mae 5 Diwrnod Llyfrgell yn rhan o ymgyrch Goroesi a Chymell Aseiniadau. Edrychwch am lyfrgellwyr eich pwnc yn y llyfrgell yr wythnos nesaf – byddwn yn sgwrsio gyda chi am y gefnogaeth allwn ni ei chynnig gyda chyfeirio ac ymchwilio ar gyfer eich aseiniadau.

November 8th, 2018

Posted In: Uncategorized

Tags:


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University