A fyddwch chi yn Abertawe yn ystod gwyliau’r Pasg? Casglwch lyfr am ddim ar gyfer Noson Ryngwladol y Llyfr! Fel y soniwyd yn ein blog yr wythnos ddiwethaf, byddwn yn rhoddi copïau am ddim o Artemis, gan Andy Weir. Cadwch lygad yn agored am gopïau yn y llyfrgelloedd wythnos nesaf, a dywedwch helô wrth rai o’r tylwyth teg a fydd yn dosbarthu copïau yng ngorsafoedd bysiau campws y Bae a Singleton o 14.00 ar 23ain Ebrill.

Gall myfyrwyr sydd ag anabledd print wedi’i brofi’n feddygol fod yn gymwys am gopi o Artemis mewn fformat hygyrch. Os ydych wedi cofrestru gyda’r Ganolfan Drawsgrifio, cysylltwch â’r staff yno. Gallant wneud cais am gopi drwy RNIB Bookshare.

Mae ymchwil yn dangos bod darllen er pleser yn ffordd wych i leddfu straen. Casglwch gopi o Artemis a rhowch seibiant i’ch hun rhag eich astudiaethau!

 

The World Book Night logo - a dark moon with a crescent shape lit on the left. The words World Book Night 23 April appear over the moon

April 10th, 2019

Posted In: Library Event, Readaxation

Tags: ,


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University