Mae ‘5 niwrnod o EndNote’ yn gwrs ar-lein i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Cynhelir y cwrs rhwng 6 a 10 Tachwedd.

 

 

 

 

Sut bydd y cwrs yn gweithio.

Bob dydd, bydd blog newydd a fydd yn eich tywys drwy ddefnyddio EndNote Online. Byddwn yn dechrau gydag elfennau sylfaenol creu cyfrif, ond erbyn diwedd yr wythnos byddwch yn gallu defnyddio EndNote i fewnosod rhestri cyfeiriadau a dyfyniadau yn eich dogfennau Word.

Bydd y cwrs yn ymdrin â:
• Creu cyfrif EndNote Online
• Gosod cyfeiriadau
• Mewnforio cyfeiriadau
• Trefnu a rhannu’ch cyfeiriadau
• Creu llyfryddiaethau/rhestri cyfeiriadau
• Defnyddio EndNote gyda Word i fewnosod rhestri cyfeiriadau a dyfyniadau

Sut i ymuno
Ewch i https://5daysofendnote.wordpress.com a chofrestrwch i ddilyn y blog drwy e-bost. Byddwn yn trydar dolenni i’r postiadau newydd bob dydd o @SwanseaUniLib gan ddefnyddio’r hashnod #su5doe

October 31st, 2017

Posted In: Uncategorized


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University