Thema eleni ar gyfer Mis Hanes LGBT yw “Daearyddiaeth: Mapio’r Byd”. I ddathlu rydym wedi creu arddangosfa o lyfrau, DVDs ac eitemau eraill gan awduron Cymraeg yn ein Llyfrgell Parc Singleton.

Mae’r arddangosfa yn rhoi lle amlwg i Jan Morris – sy’n enwog am Pax Britannica trilogy (1968-1978), hanes yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hi hefyd yn adnabyddus am ei gweithiau lliwgar yn trafod teithio, Trieste and the meaning of nowhere, A writer’s world : travels 1950-2000 a Wales : epic views of a small country. Hunangofiant Jan ym 1974, Conundrum, oedd un o’r llyfrau cyntaf i adrodd y profiad o ailbennu rhyw.

Ymhlith y gweithiau eraill yn yr arddangosfa mae hunangofiannau gan athletwyr o Gymru – Proud, Gareth Thomas a Hanner Amser, Nigel Owens. Llwyddodd y ddau i oresgyn rhwystrau mewn chwaraeon i ddynion hoyw pan wnaethant ddatgan eu rhywioldeb. Mae eu gweithiau yn disgrifio hynt a helynt y daith honno.

Dangosir hefyd gwaith y cymdeithasegydd a’r actifydd dros hawliau hoyw Jeffrey Weeks. Mae’r hanesydd a’r actifydd Norena Shopland wedi bod yn tynnu sylw at y cyfraniad a wnaed i ddiwylliant Cymru yn ei llyfr diweddaraf Forbidden Lives (llyfr newydd sbon ar gyfer ein casgliadau yn y llyfrgell).

Mae themâu o gariad a chwantau lesbiaidd yn ystod Oes Fictoria yn cael eu harchwilio yng ngwaith yr awdures Gymraeg Sarah Waters. Dangosir detholiad o’i nofelau a’i DVDs yn yr arddangosfa. Mae gwaith yr awdur Cymraeg ac enillydd Gwobr Stonewall, John Sam Jones hefyd yn ymddangos. Ef a ysgrifennodd Welsh Boys Too a Fishboys of Vernazza. Mae ei nofelau a’i straeon byrion yn tynnu ar brofiadau dynion hoyw yng Nghymru.

Ni fyddai ein dathliad yn gyflawn heb waith y sgriptiwr a’r cynhyrchydd teledu Russell T Davies, yn enedigol o Abertawe. Ymhlith ei weithiau mae Queer as Folk, The Second Coming, Doctor Who a Torchwood.

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau’r arddangosfa.

Os hoffech ddarganfod mwy am y deunydd, a’r themâu LGBT cysylltiedig, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen ein blog blaenorol. Gallwch ddod o hyd i ragor o ddeunydd ar y rhestr ddarllen LGBT rydym wedi’i chreu.

 

 

 

 

February 2nd, 2018

Posted In: Uncategorized


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University