Rhannu’r straeon ymchwil…

Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe wedi ymgymryd â phrosiect digideiddio yn ddiweddar er mwyn gwneud 1000 o Draethodau Hir PhD a MPhil o gasgliad thesis hanesyddol ar gael ar-lein.

Mae’r eitemau testun llawn electronig bellach ar gael ar Cronfa, cadwrfa sefydliadol Prifysgol Abertawe, a gwasanaeth Quest Dissertations and Theses Global . Mae ein cynnwys yn ymuno â’r 2.3 miliwn o draethodau hir sy’n cael eu darparu gan bob prif lyfrgell ymchwil yn y byd.

Mae gan Lyfrgell Parc Singleton dros 11,000 o thesisau gradd uwch wedi’u rhwymo, sydd ar gael ar sail mynediad cyfyngedig yn unig i ddarllenwyr sy’n ymweld â’r llyfrgell. Bydd Cronfa, sef Ystorfa Ymchwil Prifysgol Abertawe yn darparu mynediad ar draws y byd i lawer mwy o’n casgliad gwych o ymchwil. Mae’r prosiect digideiddio hwn yn ychwanegu at y prif gasgliad o Thesisau  ar-lein.

Cliciwch yma i gael gafael ar wybodaeth neu yma i chwilio’r casgliad.

Ar gyfer ymholiadau’n ymwneud ag e-draethodau ymchwil cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell openaccess@abertawe.ac.uk

August 31st, 2018

Posted In: E-Thesis, Open Access, Rheoli Theses, Theses Management

Tags: ,


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University