Croeso i Ddiwrnod 5 #su5dol. Hyd yn hyn, rydym wedi archwilio sut y mae canfod llyfrau ac erthyglau cyfnodolion. Roeddech yn disgwyl defnyddio’r math hwn o ddeunydd pan ddechreuoch yn y brifysgol siŵr o fod. A ydych chi wedi meddwl am adnoddau eraill sydd y llyfrgell y gallai fod angen i chi eu defnyddio?

Mae’r llyfrgell yn tanysgrifio i lawer o gronfeydd data ar bynciau arbenigol. Gallant eich helpu i ganfod gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau. Mae llawer o’r cronfeydd data hyn yn dal erthyglau cyfnodolion ysgolheigaidd. Gallwch eu defnyddio i chwilio am erthyglau cyfnodolion ar eich testun.

I ganfod y cronfeydd data gorau ar gyfer eich pwnc, ewch i dudalen Hafan Canllawiau’r Llyfrgell a chliciwch ar eich ysgol neu goleg. Yna, cliciwch ar raglen eich gradd. Byddwch yn gweld canllawiau, gwybodaeth a dolenni i adnoddau pwysig. Bydd yna fanylion cyswllt hefyd er mwyn i chi allu cysylltu â’ch llyfrgellwyr os bydd gennych gwestiynau.

The LibGuides logo - a blue cloud with the outline of a laptop icon inside it

Ar Ddiwrnod 4, buom yn trafod chwilio am erthyglau ar eich testun trwy iFind. Gallwch ddefnyddio’r un strategaethau i chwilio am erthyglau yn y cronfeydd data arbenigol. I chwilio’n effeithiol:

  • Treuliwch amser ar y dechrau yn ysgrifennu’r geiriau allweddol y gallwch eu defnyddio wrth chwilio. Fel rheol, cewch rai geiriau allweddol yn nheitl eich aseiniad, ond cofiwch feddwl am gyfystyron a geiriau perthnasol eraill hefyd
  • Defnyddiwch yr opsiynau Limit ar eich tudalen ganlyniadau. Fel rheol, gallwch gyfyngu yn ôl:
    • dyddiad cyhoeddi – dylai’r rhan fwyaf o’r deunyddiau y byddwch yn cyfeirio atynt yn eich aseiniadau ddyddio o’r 10 mlynedd diwethaf
    • ffynhonnell – erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid yw’r rhai mwyaf ysgolheigaidd; mae cyfnodolion masnach neu broffesiynol yn dda o ran rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eich maes
    • pwnc – defnyddiwch hwn i’ch helpu i nodi’r erthyglau mwyaf perthnasol i’ch anghenion

Gwybodaeth arbenigol

Gallai fod angen i chi chwilio am ddata neu wybodaeth arbenigol fel rhan o’ch astudiaethau. Er enghraifft, bydd angen i fyfyrwyr yr Ysgol Reolaeth ganfod gwybodaeth ariannol, bydd myfyrwyr y Gyfraith yn edrych ar ddeddfwriaeth a gall fod angen i Beirianwyr ymgynghori â’r Safonau Prydeinig. Gall ein cronfeydd data eich helpu! Mae ein Pecyn Goroesi Aseiniad (ASK) yn cynnwys canllawiau ynghylch Mathau o wybodaeth arbenigol. Defnyddiwch y rhain i’ch helpu i ganfod:

  • Trafodion cynadleddau
  • Safonau Prydeinig neu fanylebau technegol eraill
  • Patentau
  • Ystadegau
  • Adroddiadau cyfreithiol, cyfnodolion cyfreithiol a deddfwriaeth (statudau)
  • Gwybodaeth fusnes, gan gynnwys proffiliau cwmnïau, gwybodaeth ariannol cwmnïau ac ymchwil i’r farchnad
  • Ffilm a cherddoriaeth
  • Lluniau a delweddau
  • Deunyddiau seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol

Yn bwysicach na dim, cofiwch ofyn am gymorth gan eich llyfrgellwyr cyfeillgar os na allwch ganfod yr hyn sydd ei angen arnoch!

A collage of subject librarians' team photos

November 16th, 2018

Posted In: Uncategorized

Tags:


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University