Mae Noson Ryngwladol y Llyfr ychydig dros wythnos i ffwrdd. Eleni, rydym ni wrth ein bodd o gael ein dewis i ddosbarthu copïau o Artemis, gan Andy Weir. Bydd rhai o dylwyth teg y llyfrau yn dosbarthu copïau yng ngorsafoedd bysiau campws y Bae a Singleton o 14.00 ddydd Mawrth nesaf. Er, rydym ni wedi cyffroi gormod i aros tan hynny, felly rydym hefyd yn rhoddi copïau o’r llyfr yn llyfrgelloedd ein campws yr wythnos hon. Mae’r niferoedd yn brin, felly peidiwch ag oedi. Galwch yn llyfrgell y Bae, Parc Singleton, Glowyr De Cymru neu Ddewi Sant a helpwch eich hun i lyfr o’n harddangosfa.

Gall myfyrwyr sydd ag anabledd print wedi’i brofi’n feddygol fod yn gymwys am gopi o Artemis mewn fformat hygyrch. Os ydych wedi cofrestru gyda’r Ganolfan Drawsgrifio, cysylltwch â’r staff yno. Gallant wneud cais am gopi drwy RNIB Bookshare.

A copy of the book, Artemis, is displayed front facing on top of 4 copies lying flat with their spines facing out

April 15th, 2019

Posted In: Library Event, Readaxation

Tags: ,


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University