Cyhoeddir enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas 2019 heddiw– 16 Mai.  Dewch i weld ein harddangosfa yn Llyfrgell Parc Singleton sy’n dangos yr awduron ar y rhestr fer, enillwyr blaenorol a detholiad o lyfrau gan awduron cyfoes du ac o leiafrifoedd ethnig sydd ar gael yn llyfrgell Prifysgol Abertawe.

Mae’r cwpwrdd arddangos hwn yn cynnwys detholiad o lyfrau gan awduron cyfoes du ac o leiafrifoedd ethnig sydd ar gael yn llyfrgell Prifysgol Abertawe.

Mae’r rhestr fer yn adlewyrchu’r ffaith fod yr awduron ifanc mwyaf talentog yn yr iaith Saesneg yn dod o nifer fawr o wahanol wledydd ac o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys llawer o awduron du.  Mae’r Athro Dai Smith wedi dweud am  y rhestr fer: “Unwaith eto, mae Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe wedi darganfod toreth o ddoniau newydd, yn cynrychioli grŵp o leisiau cyfoes ac amrywiol o bedwar ban byd”.

Yn ddiweddar mae galw wedi bod gan fyfyrwyr Caergrawnt a phrifysgolion eraill i lenyddiaeth Saesneg a chyrsiau eraill gael eu “dad-goloneiddio” drwy gynnwys llawer mwy o awduron sy’n bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.   Bydd modiwl newydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas yn canolbwyntio ar awduron a gyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer y Wobr, gan gynnwys Novuyo Rosa Tshuma a anwyd yn Simbabwe, yr awdur Americanaidd-Ghanaidd Nana Kwame Adjei-Brenyah, y Prydeiniwr Sri-Lancaidd Guy Guaratne a Michael Donkor yr awdur Prydeinig-Ghanaidd.

Hoffech chi weld casgliadau mwy amrywiol yn ein llyfrgell?

Byddem yn croesawu eich awgrymiadau am lyfrau i’w hychwanegu at y llyfrgell – llenwch y ffurflen isod gydag unrhyw awgrymiadau sydd gennych.

Ffurflen Awgrymiadau

May 15th, 2019

Posted In: Uncategorized


css.php

© Swansea University

Hosted by Information Services and Systems, Swansea University