Croeso i’n cyfres o bodlediadau ‘Archwilio Problemau Byd-eang’, lle bydd ein hacademyddion yn trafod sut mae eu hymchwil arloesol yn helpu i ymdrin ag amrywiaeth o heriau rhyngwladol.

Mae pynciau’n cynnwys arloesedd ym maes iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân a thechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl.

Cliciwch ar y botymau isod i archwilio bob tymor ac yna gwrandewch a thanysgrifiwch i'r gyfres gan ddefnyddio'ch darparwr podlediadau dewisol.

Ewch i'n tudalen cymorth podlediad i ddysgu rhagor am sut i wrando.

Adolygiad Ar Gyfer Archwilio Problemau Byd-eang: Amrywiol a chraff

Rhai pynciau sy’n procio’r meddwl (amrediad amrywiol hyd yn oed ar draws y ddwy bennod rydw i wedi gwrando arnyn nhw hyd yn hyn) gan ystod o siaradwyr sy’n dda i’w gweld, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau. Dechrau cyfres hir a llwyddiannus gan Brifysgol Abertawe gobeithio!

Tymor 4

A allwn ymddiried mewn gwleidyddion? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang? Pwy sy'n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît? Dyma'r cwestiynau sy'n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang.

Penodau newydd yn cael eu rhyddhau bob pythefnos

drôn

'Exposing a long history of assassinations'

6 May 2024
Tymor 3, Pennod 1

Yn y bennod hon, mae Dr Luca Trenta yn trafod defnydd gwladwriaethau o weithredu cudd, gyda ffocws ar ymwneud Llywodraeth yr UD â llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth. Gan rychwantu'r cyfnod o'r Rhyfel Oer hyd heddiw, mae Dr Trenta yn archwilio dimensiynau cywrain y gweithrediadau cudd hyn.

Gwrandewch ar bennod 1

Tymhorau Blaenorol

Ein Gwesteiwr

Dewch i gwrdd â chyflwynydd y gyfres 'Exploring Global Problems', Sam Blaxland. Mae Sam yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Abertawe, ar ôl bod yn fyfyriwr PhD, yn Gymrawd Ôl-ddoethurol, yn Diwtor ac yn Ddarlithydd Hanes Fodern rhwng 2013 a 2022. Mae bellach yn gweithio i UCL. Tra bu yn Abertawe, ysgrifennodd lyfr ar hanes y Brifysgol i nodi ei chanmlwyddiant yn 2020. Bu hefyd yn addysgu ar amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.

Ganwyd a magwyd Sam yn Sir Benfro. Mae'n gyfrannwr rheolaidd i gyfryngau darlledu Prydain a Chymru ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos ar sianel Newyddion y BBC a rhaglen Breakfast BBC1, ymysg eraill, i drafod hanes gwleidyddiaeth fodern a materion cyfoes. Y tu allan i'r gwaith, mae'n rhedwr brwd (o redeg mewn Parkruns ar fore dydd Sadwrn i farathonau), ac mae'n dwlu ar bapurau newyddion copi caled, hen ffasiwn. Mae hefyd yn mwynhau coginio, dysgu am win (a'i yfed).