Yn y bennod hon

Yn y bennod hon, mae Dr. Luca Trenta yn trafod defnydd gwladwriaethau o weithredu cudd, gyda ffocws ar ymwneud Llywodraeth yr UD â llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth. GGan rychwantu'r cyfnod o'r Rhyfel Oer hyd at y cyfnod cyfoes, mae Dr Trenta yn archwilio dimensiynau cywrain y gweithrediadau cudd hyn ac yn herio'r canfyddiad cyffredin o lofruddiaeth fel rhywbeth unigryw i gyfundrefnau awdurdodaidd.

Mae ymchwil Dr Luca Trenta yn canolbwyntio ar ddau brif faes: cyfrinachedd y wladwriaeth a llofruddiadau a noddir gan y wladwriaeth. Mae'r ymchwil ddamcaniaethol hon yn dibynnu'n helaeth ar hanes a chysylltiadau rhyngwladol. Mae'n gwerthuso hyd a lled cyfranogiad mewn llofruddiadau a noddir gan y wladwriaeth UDA a'r ffordd y cafodd y rhain eu trafod, eu penderfynu a'u cyfiawnhau dros y 70 mlynedd diwethaf.

Drwy gyfuno ymchwil archifol a chyfweliadau elît, mae'r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar weithredoedd cuddiedig a gynhaliwyd yn bennaf gan Lywodraeth yr UD. Diffinnir y rhain fel gweithredoedd a gynhaliwyd gan asiantaethau’r llywodraeth (neu ddirprwyon) i ddylanwadu ar amodau tramor mewn modd nad yw'n briodol i'r llywodraeth noddi. Y nod yw cynnal credadwyedd wrth wadu. Mae llofruddiaethau a noddir gan y wladwriaeth yn ffurf eithafol o weithrediadau cudd. Mae ymchwil Dr Trenta'n canolbwyntio ar dargedu swyddogion neu gynrychiolwyr llywodraethau tramor.

Yn dilyn llwybr o gliwiau a gwadiadau, mae'r gwaith ymchwil hwn yn taflu goleuni ar y berthynas gymhleth rhwng y weithrediaeth, canghennau deddfwriaethol, y cyfryngau a'r cyhoedd. Drwy ymchwilio i’r set unigryw o symudiadau ieithyddol a ddefnyddir gan Lywodraeth yr UD i gyfiawnhau ei gweithredoedd, mae'n datgelu sut - er gwaethaf gorchymyn gweithredol sy'n gwahardd yr ymarfer – mae Llywodraeth yr UD wedi parhau i ddibynnu ar lofruddiadau fel rhan o arfau ei pholisi tramor cuddiedig.

Mae Dr Trenta'n herio'r canfyddiad cyffredin o lofruddiad fel rhywbeth sy'n unigryw i gyfundrefnau awdurdodaidd, ac o ganlyniad mae'n pwysleisio gweithredoedd hanesyddol Llywodraeth UDA, gan geisio herio'r farn gyffredin sef bodolaeth 'trefn ryngwladol sy'n seiliedig ar reolau'.

Am ein harbenigwr

Mae Dr Luca Trenta'n Athro Cysylltiol mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe. Symudodd Luca i'r DU yn 2009 i astudio gradd Meistr mewn Astudiaethau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Durham, ac yna PhD a arweiniodd ato'n coginio swper ar hap i Gyn-arlywydd UDA, Jimmy Carter.

Mae Dr Trenta wedi bod yn ymchwilio'n bennaf i bolisi tramor yr UD a'r penderfyniadau arlywyddol a wnaed. Mae ei draethawd PhD, a ddatblygwyd i fod yn fonograff ar gyfer Routledge, yn archwilio sut mae Arlywyddion yn rheoli risgiau gwleidyddol rhyngwladol, strategol a chartref.

Ym mis Mai 2023, trefnodd Dr Trenta gynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, gydag ysgolheigion allweddol yn bresennol ac mae llawer ohonyn nhw'n cyfrannu ar hyn o bryd at gyfrol a olygir ar bwnc llofruddiadau i'w chyhoeddi gan Lynne Rienner yn 2026.

Bydd llyfr Dr Trenta ‘The President’s Kill List’ ar gael i'w brynu ym mis Mai 2024.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.